Thomas Gray

Bardd o Loegr oedd Thomas Gray (26 Rhagfyr 171630 Gorffennaf 1771). Fe'i ganwyd yn Llundain. Roedd yn gyfaill i Horace Walpole.

Cyfieithwyd ac addaswyd ei waith mwyaf adnabyddus, ''Elegy Written in a Country Churchyard'', i'r Gymraeg sawl gwaith yn y 18fed a'r 19g.

Dyma gyfieithiad John Morris-Jones o linellau agoriadol y gerdd: :''The curfew tolls the knell of parting day,'' :''The lowing herd wind slowly o'er the lea, ....''

:Cân y ddyhuddgloch gnul i dranc y dydd, :Try'r araf yrr dan frefu dros y ddôl; ....

Gwaith adnabyddus arall gan Gray yw ei gerdd ''The Bard'', sy'n seiliedig ar yr hanesyn am "gyflafan y beirdd". Cafodd Gray yr hanes yn y gyfrol ''History of England'' (1747–55) gan y hanesydd o Sais Thomas Carte. Daeth hanes y 'gyflafan' yn enwog diolch i gerdd Gray, sy'n portreadu'r bardd olaf yn melltithio Edward I o Loegr ac yn proffwydo dinistr ar ei ddisgynyddion. Cafodd Gray yr hanesyn o lyfr Carte yn 1755 ac ysgrifennwyd y gerdd ganddo yn 1757 ar ôl clywed Edward Jones (Bardd y Brenin) yn canu alawon Cymreig ar ei delyn. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 38 ar gyfer chwilio 'Gray, Thomas,', amser ymholiad: 0.08e Mireinio'r Canlyniadau